Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 20 Medi 2017.
Ie, ac mae’r Aelod yn iawn ynglŷn â’r hyn y mae’n ei nodi am gasglu data. Gofynnais i’r tîm edrych yn benodol, ar bob ardal i gael rhyw fath o gysondeb ynglŷn â’r dehongliad a’r dull o fesur a sut y mae hynny’n edrych. Efallai ei fod yn ymwneud â dehongli sut y mae hynny’n edrych o safbwynt adroddiadau unigol. Rwy’n ofni bod yn rhaid i ni gael mwy o gysondeb mewn perthynas â data fel y gallwn wneud buddsoddiadau yn y mannau priodol lle mae’r data wedi codi’n sydyn neu’n cynyddu.