Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 20 Medi 2017.
Rwy’n ategu’r pwynt hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw’n bosibl gwneud cymariaethau rhwng nifer yr aelwydydd cymwys rhwng 2015-16 a 2016-17 oherwydd problemau gydag ansawdd data ffigurau 2015-16, a newidiadau i ffurflenni ar gyfer 2016-17 gyda’r ddeddfwriaeth newydd wrth gwrs. Rydym yn gobeithio y bydd ffigurau o ansawdd data addas neu ddigonol ar gael yn fuan. Fodd bynnag, yn y bum mlynedd flaenorol, gostyngodd nifer yr aelwydydd digartref ar Ynys Môn o 125 i 45. Gostyngodd hefyd mewn lleoedd fel Gwynedd, Wrecsam a Thorfaen, ond cynyddu a wnaeth mewn llefydd fel Castell-nedd Port Talbot, o 140 i 195, a Sir y Fflint, o 55 i 95. Pa ystyriaeth a roesoch i sefydlu pam ein bod yn gweld y patrymau gwahanol hyn mewn gwahanol rannau o Gymru, beth bynnag fo lliw gwleidyddol y cynghorau ar y pryd?