Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 20 Medi 2017.
Mae hynny braidd yn ddewr. Iawn. Gyda chyflwyno gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus yn y dyfodol, fe fyddwch yn gwybod am y brotest ar y cyfryngau, yng Nghonwy mewn gwirionedd, gyda’r cabinet blaenorol, gallwn ychwanegu, lle y profwyd bod swyddogion gorfodi—rhai allanol—wedi bod yn orfrwdfrydig iawn o ran targedu fy etholwyr ac ymwelwyr. Nawr, gyda’r gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus yn y dyfodol, dywedir wrthym fod hyn yn ateb. Sut y byddwch chi’n gweithio, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda Llywodraeth y DU a’n prif gwnstabliaid ledled Cymru i ystyried sicrhau, o bosibl, fod swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu mewn lifrai yn chwarae mwy o ran yn y mathau hyn o droseddau amgylcheddol yn y dyfodol? Rwyf wedi dwyn hyn i’ch sylw chi a’ch rhagflaenydd o’r blaen—ynglŷn â sut y gallwn gael dull mwy unffurf o orfodi, o bosibl, ledled Cymru, ac yn sicr, nid wyf yn credu mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw’r unig un lle y ceir materion yn ymwneud â gorfodi hysbysiadau cosb benodedig a’r mathau hynny o droseddau amgylcheddol.