<p>Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 20 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:55, 20 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i godi’r mater. Cafodd gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus eu sefydlu o dan adrannau 59 i 65 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Mater i awdurdodau lleol a’r heddlu ydynt. Buaswn hefyd yn annog cefnogaeth gan yr Aelod mewn perthynas â datganoli plismona. Felly, gallem reoli pob un o’r materion hyn o Lywodraeth Cymru, yn hytrach na gofyn i’w chydweithwyr geisio ein helpu i newid ein cymunedau er gwell, gyda chefnogaeth yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu.