Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ar ben hynny, fe fyddwch yn gwybod bod Gweithredu dros Blant wedi honni’n ddiweddar fod gofal maeth yng Nghymru mewn argyfwng. Mae’r ffigurau’n dangos bod 88 y cant o oedolion yn dweud eu bod yn annhebygol o ystyried maethu plentyn neu oedolyn ifanc ar unrhyw adeg. Felly, buaswn yn gofyn hyn: pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio er mwyn cynyddu nifer y gofalwyr maeth, ac a ydych yn cytuno bod angen i ni symud i safon Cymru gyfan, mewn perthynas â thaliadau i ofalwyr maeth, er enghraifft, gyda golwg ar leihau cystadleuaeth rhwng darparwyr a rhwng ardaloedd daearyddol yng Nghymru?