Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 20 Medi 2017.
Mae gennyf weithgor yn edrych ar hyn. Yn ogystal â’r fframwaith maethu yng Nghymru, mae ein gwaith mewn perthynas â hyrwyddo lleoliadau sefydlog yn cynnwys adolygiad o orchmynion gwarcheidwaeth arbennig, buddsoddi mewn model newydd o gymorth mabwysiadu drwy’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, a grŵp gorchwyl a gorffen ar ofal preswyl i blant. Rwy’n credu bod hwn yn un o’r meysydd na ddylai fod yn wleidyddol mewn unrhyw ffordd yn fy marn i, lle mae buddiannau pobl ifanc yn agos at ein calonnau. Os oes gan yr Aelod unrhyw gyfraniadau cadarnhaol i’w gwneud, buaswn yn hapus iawn i’w derbyn a’u bwydo i’r gweithgor wrth i ni symud ymlaen.