Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 20 Medi 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r ystadegau trais yn y cartref yn frawychus. Yng Nghymru a Lloegr, ar gyfartaledd, caiff dwy ddynes eu lladd gan eu partner neu gyn-bartner bob wythnos. Troseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig yw 10 y cant o gyfanswm y troseddau—ffigur sy’n cynyddu—ac eto honno yw’r drosedd dreisgar sydd leiaf tebygol o gael ei hadrodd i’r heddlu o hyd. Er bod cyfraddau erlyniadau’n codi o flwyddyn i flwyddyn, mae cyfraddau aildroseddu’n parhau i fod yn rhy uchel. Amcangyfrifir bod pedwar o bob 10 o bobl sy’n goroesi cam-drin domestig yn dioddef fwy nag unwaith. Byddai cyflwyno cofrestr o droseddwyr trais yn y cartref yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb i’r troseddwyr. Byddai hyn yn caniatáu i’r heddlu gadw gwybodaeth am droseddwyr, yn blaenoriaethu adnoddau yn seiliedig ar risg ac yn bwysicaf oll, yn diogelu goroeswyr yn well. Gyda hyn mewn golwg, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried sefydlu cofrestr trais yn y cartref yng Nghymru?