Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 20 Medi 2017.
Yn bersonol, rwy’n cefnogi egwyddorion yr Aelod y sy’n sail i hyn. Rwyf wedi ysgrifennu at Sarah Newton AS, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Drosedd, Diogelu a Bregusrwydd, er mwyn cael ei barn ar ymgyrch dros gofrestr troseddwyr. Byddaf yn ystyried y mater yng ngoleuni ei hymateb i hynny. Rwyf hefyd wedi gofyn am gyngor cyfreithiol parthed cymhwysedd y Cynulliad i greu cofrestr neu fel arall, ond rwy’n edrych ar yr holl opsiynau a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o fanylion pan fyddaf yn eu cael.