Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 20 Medi 2017.
A gaf fi ddechrau gyda gair o ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei barodrwydd i sicrhau ei fod ar gael o bryd i’w gilydd er mwyn trafod materion yn ymwneud â gwasanaethau’r GIG? Yn bersonol, rwy’n gwerthfawrogi’r cyfle i gael y sgyrsiau hynny gyda chi. Nid wyf yn aelod o’r pwyllgor Iechyd, ond fel llawer o Aelodau eraill y Cynulliad, yn amlwg mae pwysau ar recriwtio meddygon teulu yn enwedig yn fy etholaeth i. Mae gennyf bractis sydd wedi cau ei restr yn ddiweddar ac wedi gofyn i gleifion ailgofrestru gyda meddygfeydd eraill, ac mae meddygfeydd eraill o dan bwysau go iawn o natur debyg. Mae llawer wedi mabwysiadu dulliau arloesol o ymarfer, dulliau amlddisgyblaethol o ymarfer, a dylem annog meddygfeydd i fabwysiadu’r rhain yn gyffredinol, er eu bod yn aml wedi cael eu mabwysiadu o ganlyniad i brinder. Ceir mentrau ymhlith practisau’n lleol ac ar lefel y bwrdd iechyd i recriwtio meddygon teulu ac mae rhai o’r rheini’n llwyddo, ond maent yn fentrau hirdymor, os mynnwch, o ran eu heffeithiau.
Mae’r sylwadau rwyf am eu gwneud, mewn gwirionedd, yn ymwneud â mentrau Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, yn enwedig menter recriwtio Hyfforddi, Gweithio, Byw lle bydd rhai sy’n hyfforddi i fod yn feddygon teulu yn cael cymhelliant sylweddol i barhau i weithio yn eu hardal leol am flwyddyn wedi i’w hyfforddiant ddod i ben. Mae hynny’n amlwg o fudd sylweddol i’r ardaloedd hynny a dargedwyd ar gyfer y cymorth hwnnw, yn bennaf yng ngorllewin Cymru ac yng ngogledd Cymru, ac nid wyf am un eiliad yn gwarafun i drigolion y rhannau hynny o Gymru y gefnogaeth y byddant yn ei chael ar gyfer mentrau recriwtio yno.
Ond mewn gwirionedd, mae’n apêl ar y Llywodraeth i gadw effeithiau hynny ar rannau eraill o Gymru mewn cof, ardaloedd lle ceir pwysau mawr ar recriwtio hefyd, yn aml am resymau, fel y dywedodd Julie Morgan, yn ymwneud â gwledigrwydd mewn etholaethau fel fy un i, nad ydynt yn wledig yn bennaf ond sydd â phocedi o wledigrwydd sy’n dioddef o heriau tebyg i’r rhannau o Gymru sy’n wledig yn bennaf.
Y risg, wrth gwrs, yw y gall y cynllun weithredu nid yn unig fel atyniad i’r rhannau hynny o Gymru ond y gall greu math o anfantais gystadleuol, os caf ei roi felly, i’r rhannau eraill hynny o Gymru sy’n dal i ddioddef o bwysau recriwtio sylweddol. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cadw’r cynllun cymhelliant dan arolwg ac yn edrych yn benodol ar ganlyniadau sydd efallai’n groes i’r graen a allai godi mewn rhannau eraill o Gymru sy’n dioddef pwysau tebyg ar eu recriwtio.