Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 26 Medi 2017.
Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn i eisiau canolbwyntio’n benodol ar sut yr ydym ni’n cael mwy o bobl i feicio, oherwydd i mi gael fy synnu’n fawr pan gefais i ddirprwyaeth o fyfyrwyr blwyddyn 12 o Ysgol Teilo Sant, pob un ohonynt yn 16 neu 17 oed, ac nid oedd yr un ohonynt yn beicio i’r ysgol. Dywedodd un ohonynt hyd yn oed, 'O, rwy'n byw pedair milltir i ffwrdd', fel pe byddai hynny’n ffordd bell iawn i feicio. Os edrychwn ni ar yr ystadegau, mae llai na 3 y cant o blant pump i 16 oed yn mynd ar feic, ond mae 30 y cant, neu fwy, yn mynd mewn car. Os na allwn ni ddechrau gyda'r genhedlaeth ifanc bresennol, ni fyddwn byth yn cael y newid moddol sydd ganddyn nhw mewn mannau fel yr Iseldiroedd, lle mae 40 y cant yn mynd ar feic, ac mewn un ddinas yn Denmarc—yr ail ddinas—mae 80 y cant yn mynd ar feic. Felly, beth ydych chi'n ei gredu y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau’r newid hwnnw i ddiwylliant mewn gwirionedd?