<p>Trafnidiaeth Gynaliadwy</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 26 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:31, 26 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, wrth gwrs, yw’r sail ar gyfer gwneud hyn, gan gydnabod, er ei fod yn bwysig i iechyd, mai ffordd o deithio yw beicio, ac mae'n bwysig, fel y mae cerdded, wrth gwrs. Rwyf wedi meddwl erioed, wrth geisio annog pobl i fynd ar feiciau, ei bod hi'n bwysig eu bod nhw’n teimlo'n ddiogel, ac mae llawer o bobl yn anfodlon i fynd ar y ffyrdd a chymysgu gyda cheir. Yn y gwledydd y cyfeiriodd yr Aelod atynt, yn yr Iseldiroedd, er enghraifft, ac yn Denmarc, ceir gwahaniad rhwng beiciau a cheir, a dyna un o'r ffyrdd y gellir annog pobl i wneud mwy o ddefnydd o feiciau. Mae llawer o waith i'w wneud, yn enwedig yn ein dinasoedd, i sefydlu llwybrau beicio i mewn i'r dinasoedd. Mae gennym ni rai llwybrau beicio sy'n tueddu i fynd â phobl i ffwrdd i gefn gwlad, ond nid ydym ni mewn sefyllfa eto, yn fy nhyb i, lle gallwn ddweud bod gennym ni rwydwaith priodol o lwybrau beicio trefol a fydd yn annog y beicwyr mwy amharod i ddefnyddio beic yn hytrach na theimlo bod yn rhaid iddyn nhw gystadlu gyda cheir ar y ffyrdd. Ond mae'r Ddeddf teithio llesol wedi dechrau'r broses o newid agweddau ac annog awdurdodau lleol i gyflwyno darpariaeth briodol ar gyfer beiciau.