Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 26 Medi 2017.
Prif Weinidog, flwyddyn yn ôl, safbwynt Llywodraeth Cymru oedd nad oedd unrhyw gynlluniau uniongyrchol i ddefnyddio arian cyhoeddus ar gyfer seilwaith cerbydau trydan. Nawr, ers hynny, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei phenderfyniad i gael gwared ar geir diesel yn raddol erbyn 2040. A fyddech chi'n cytuno â mi ei bod yn hanfodol erbyn hyn bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng nghanol trefi i gychwyn, ac yna ymhellach i fwrdd, i wneud y newid hwnnw o geir diesel i geir trydan yn realiti?