<p>Trafnidiaeth Gynaliadwy</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 26 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:33, 26 Medi 2017

Rwy’n cytuno’n llwyr â’r pwynt ynglŷn â cherbydau trydan, felly mi wnaf droi yn ôl at y beicio, a pha mor bwysig yw hi felly bod seiclo yn rhan nid yn unig o’r cynlluniau teithio actif, ond hefyd yn rhan o gynlluniau teithio awdurdodau lleol. Rydw i wedi gweld gormod o’r cynlluniau lleol yma sydd yn sôn am seiclo yng nghyd-destun hamdden a chwaraeon, ond sydd ddim yn rhoi seiclo yng nghanol y cynlluniau fel ffordd o deithio, ac mae sir Gaerfyrddin yn enghraifft o hynny. Felly, a fyddwch chi yn gwella ac yn pwyso ar awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod seiclo yn rhan ganolog o gynlluniau teithio lleol?