Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 26 Medi 2017.
Mae e’n ganolog. Mae pob awdurdod lleol yn gorfod rhoi eu mapiau cyntaf i ni o’r llwybrau newydd y maen nhw’n mynd i’w datblygu yn eu hardaloedd. Maen nhw nawr yn gweithio ar fapiau rhwydwaith integredig, ac mae’n rhaid i nhw rhoi’r rheini i ni erbyn 3 Tachwedd 2017—eleni wrth gwrs—ac wedyn bydd modd mesur pa mor bell mae’r awdurdodau wedi mynd a faint fwy o gefnogaeth sydd eisiau ei rhoi iddynt er mwyn iddynt fynd yn y cyfeiriad iawn ar y cyflymder iawn.