Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 26 Medi 2017.
Rwyf eisiau gofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Yn gyntaf, fel y gwyddom, mae'r sector prifysgolion yn gweithredu fel sbardun economaidd, nid yn unig yng Nghaergrawnt ac ymhlith prifysgolion mawr America, ond mewn dinasoedd Ewropeaidd fel Aarhus yn Nenmarc a Mannheim yn yr Almaen. A gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru wneud datganiad ar sut y mae’n gweld sector prifysgolion Cymru yn helpu i greu cyfoeth yng Nghymru, naill ai trwy barciau gwyddoniaeth neu drwy hyrwyddo entrepreneuriaeth?
Yr ail ddatganiad yr hoffwn ofyn amdano—ac y mae'n dilyn cwestiwn a godwyd gan Dawn Bowden yr wythnos diwethaf—ar y camau sy’n cael eu cymryd i fonitro'r cynnydd a wnaed mewn achosion o insiwleiddio waliau dwbl mewn modd diffygiol yng Nghymru. Rwyf wedi cael sawl cwyn, fel Aelod etholaethol, am hyn. Rwy’n gwybod bod Aelodau eraill, ac rwy'n siŵr bod y rhan fwyaf o’r Aelodau yr wyf i wedi siarad â nhw—. Neu rwy'n gwybod bod y rhan fwyaf o Aelodau yr wyf i wedi siarad â nhw wedi cael, ac ni allaf weld unrhyw reswm pam na fydd bron pob Aelod yma wedi cael y problemau hyn, ac mae’n cael effaith ddifrifol ar y rhai yr effeithir arnynt. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar faint y broblem ac ar yr hyn yr ystyrir yn ffordd allan ohoni? Ac rwyf hefyd yn gwybod y problemau a oedd yn bodoli pan wnaeth y Llywodraeth y penderfyniad, yn hytrach na chael un cwmni yswiriant, fe’i rhoddwyd allan i gystadleuaeth—gair sy'n fy ngwneud i grynu bob amser —yn ogystal â’r ffaith ei fod yn gwneud bywyd yn anodd iawn, wedyn, i ddarganfod pwy sy'n gyfrifol.