Part of the debate – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 26 Medi 2017.
Diolch i Mike Hedges am y ddau gwestiwn yna. O ran eich cwestiwn cyntaf, wrth gwrs, mae prifysgolion Cymru eisoes, ac yn wir, yn elwa ar arfer gorau, fel yr enghreifftiau yr ydych chi’n eu rhoi—Aarhus yn Denmarc a Mannheim yn yr Almaen. Wrth gwrs, un o'r ffyrdd y mae'n gwneud hyn yw trwy ymgysylltu'n llawn, fel Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, gyda rhaglenni'r UE fel Manumix, ac mae hynny yn annog y broses o rannu arfer gorau yn y sector gweithgynhyrchu uwch. Ond rwyf am ddilyn trywydd cwestiwn i’r Prif Weinidog a’r ymateb iddo yn gynharach y prynhawn yma, sef, pe cymeradwyir y morlyn llanw arfaethedig yn Abertawe, y gwn, ar draws y Siambr hon, ein bod i gyd ei eisiau ac yn ei ddisgwyl, y byddai hyn yn gyfle euraidd i Abertawe arwain yn genedlaethol ar waith ymchwil, technoleg, masnacholi a chadwyni cyflenwi o gwmpas y morlyn llanw, fel y mae Aarhus yn Denmarc wedi’i wneud gydag ynni gwynt.
O ran eich ail gwestiwn, mae'n bwysig adrodd bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cytuno ar newidiadau i ofynion y cynllun personau cymwys er mwyn helpu i sicrhau nad yw deunydd insiwleiddio yn cael ei osod mewn eiddo anaddas o 1 Hydref ymlaen. Ar gyfer gosodiadau presennol, bydd swyddogion yn cwrdd â'r prif ddarparwr gwarant, yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl, i drafod cynnydd o ran ymdrin â hawliadau sy’n dal heb eu datrys.