Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 26 Medi 2017.
Yn ychwanegol at fy natganiad trawsbleidiol, hoffwn i ofyn am ddatganiad yn y lle hwn ar statws gwasanaethau cymorth i gerddoriaeth ledled Cymru, yr hyn sydd ar gael i ddisgyblion ysgolion Cymru o ran cyfleoedd fforddiadwy i gael hyfforddiant offerynnol a chymryd rhan mewn cerddorfeydd, a'r budd arfaethedig i Gymru o gael strategaeth perfformio cerddoriaeth genedlaethol newydd i Gymru.