Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 26 Medi 2017.
Wel, rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau'n cytuno â Steffan Lewis am y pwysau hyn sy'n cael eu rhoi ar ein cymunedau lleol—yn arbennig, wrth gwrs, rydych chi'n cyfeirio at Grymlyn yn eich ardal chi. Byddai Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr, eisiau egluro'r llinellau cyfrifoldeb o ran awdurdodau lleol, hefyd, y meini prawf o ran ein cynlluniau grantiau diogelwch ffyrdd, y mae awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn gallu gwneud cais amdanynt, ac yr ydym ninnau’n eu dyrannu fel Llywodraeth Cymru. Felly, rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon egluro a rhannu hynny gyda'r Aelodau i gyd.