Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 26 Medi 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn i'r Gweinidog wneud datganiad am ffoaduriaid Rohingya Muslim o’r hen Burma, Myanmar erbyn hyn? Mae'r wlad wedi anfon degau o filoedd o bobl mewn sefyllfa ddychrynllyd ac anobeithiol iawn i wledydd cyfagos, Bangladesh ac India. Ddoe ddiwethaf, roedd Nicola Sturgeon eisoes wedi cymeradwyo £120,000 o gymorth cychwynnol i Fwslimiaid Rohingya. Mae'r ffoaduriaid hyn—maen nhw’n Fwslimiaid, yn Hindŵiaid ac yn Gristnogion. Felly, a fyddwch chi mor garedig â gwneud datganiad ar y mater hwnnw? Ac, yn ail, a oes unrhyw bosibilrwydd o’u helpu'n ariannol, yn foesol, neu i roi cymorth meddygol i'r ardaloedd hynny, ac i roi dŵr glân i'r bobl hynny o'r rhan hon o’r byd? Diolch.