Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 26 Medi 2017.
Rwy'n credu ein bod ni’n ymwybodol iawn o’r sefyllfa ffoaduriaid Myanmar ar draws y Siambr hon. Dim ond o ran ein cyfrifoldebau, mae gennym ni raglen hawl i loches ac rydym ni’n ymgysylltu’n helaeth â’r cymorth i ffoaduriaid Syria hefyd. Ond wrth gwrs, gan nad oes gennym gyfrifoldebau datganoledig ar gyfer hyn, gallwn ni’n amlwg ofyn y cwestiynau hyn i Lywodraeth y DU, a bod yn barod i ddarparu cymorth—ac wrth gwrs, y berthynas agos sydd rhwng Cymru a Bangladesh hefyd, o ran yr effeithiau hyn.