Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 26 Medi 2017.
Yn dilyn cwestiwn Simon Thomas, a gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cyllid ar y gwahanol fathau o gyllid arloesol sydd ar gael ar gyfer prosiectau cyfalaf fel yr un a fydd yn cael ei ddefnyddio yn yr ysbyty Felindre newydd yn fy etholaeth i yng Nghaerdydd? Oherwydd fel y dywedodd Simon Thomas, bu llawer o gyhoeddusrwydd dros y penwythnos ynglŷn â chynllun Llafur y DU i ddod â phrosiectau Menter Cyllid Preifat i ben yn Lloegr pan fyddwn ni mewn llywodraeth. A hoffwn achub ar y cyfle i'w chanmol, fel aelod o lywodraethau blaenorol Cymru, am osgoi elfennau gwaethaf y Mentrau Cyllid Preifat a’n gadael ni mewn sefyllfa llawer gwell na gweddill y DU.