Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 26 Medi 2017.
A gaf i ddechrau trwy adleisio galwad Mike Hedges am naill ai ddatganiad, neu’n wir, dadl, rwy’n credu, ar y mater insiwleiddio waliau dwbl? Pan fo’r gwaith yn cael ei wneud yn iawn, gall yn wir weddnewid cartrefi er gwell. Pan fydd yn cael ei wneud yn wael–ac rwyf yn amau y bydd pob Aelod Cynulliad yn y lle hwn siwr o fod wedi cael profiad o osodiad gwael erbyn hyn– mae'n ofnadwy. Mae gennyf i un etholwr, sy’n dod o deulu nad oes ganddynt fawr o arian a’u hunig fuddsoddiad yw eu cartref. Roedd eu cartref yn wych, roedden nhw wedi buddsoddi llawer o arian ynddo, tan iddyn nhw gael cyngor drwy gynllun wedi ei gefnogi gan y Llywodraeth, i fuddsoddi mewn inswleiddio waliau dwbl. Mae hyn wedi dinistrio eu tŷ ac mae wedi dinistrio eu teulu ac mae'n ofnadwy gweld hynny. Ac nid dyna'r unig un. Mewn datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, y gwnaethom ei groesawu, yn ôl ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf, soniodd fod 2,000 o hawliadau wedi'u gwneud o dan gyngor Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl, yn erbyn 300,000–sef un o bob 150. Pe byddai un o bob 150 o geir yn torri i lawr, neu un o bob 150 o ganiau ffa a brynwyd o’r archfarchnad yn llawn llwydni, byddai banllefau o brotest. Felly, rwyf yn credu bod angen hyn arnom ni. Byddwn i’n croesawu'r cyfle i gael dadl lawn i weld pa mor gyffredin yw'r broblem hon mewn gwrionedd—a'r ffaith syml nad yw’r Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau yn talu hanner digon o iawndal i atgyweirio cartrefi.
A gaf i hefyd ofyn am y cyfle i gael datganiad neu ddadl ynglŷn â’r cynnydd yn nifer y triniaethau Botox a thriniaethau eraill o'r fath sydd weithiau'n cael eu cynnal mewn cyrsiau hyfforddi gan ymarferwyr nad ydynt yn gymwysedig, nad ydynt wedi eu cofrestru, nac yn cael eu rheoleiddio? Ac rwy'n dweud hyn oherwydd aeth meddyg teulu yn fy etholaeth i, o ran diddordeb, i un o'r cyrsiau hyn, ac roedd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal yng nghegin yr unigolyn a oedd yn cynnal yr hyfforddiant heb unrhyw wybodaeth feddygol gywir o gwbl, tra bod y ci yn rhedeg ar hyd y lle, ac roeddent yn cynnig tystysgrifau ar sut i chwistrellu Botox i wynebau pobl.
Ond, yn olaf, a gaf i ofyn y cwestiwn symlaf oll? A gaf i ofyn i'r Gweinidog am ddatganiad—ac mae'n un plwyfol iawn—ar y gwasanaeth 17:19 o Ganol Caerdydd i Faesteg? Mae’n aml iawn hanner awr yn hwyr. Neithiwr, roedd y trên dros 36 munud hwyr yn gadael. Dyna oedd y patrwm am weddill y noson. Hwn yw’r gwasanaeth sydd bob amser yn methu. A allwn ni gael datganiad ar beth ar ddaear sy’n digwydd yn y fan honno?