Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 26 Medi 2017.
Diolch, Huw Irranca-Davies. Mae'n bwysig bod yr ail gwestiwn yna wedi codi o ran inswleiddio waliau dwbl fel y gallaf, unwaith eto, sicrhau’r Aelodau bod y Cynlluniau Personau Cymwys wedi eu cyflwyno i'r rheoliadau adeiladu yn 2010 a’u bod yn cynnwys gosod deunydd inswleiddio i waliau dwbl. Mae'r cynlluniau hyn yn caniatáu i osodwyr osod deunydd inswleiddio ac i hunanardystio bod y gwaith yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymeradwyo’r cynigion yn ddiweddar i atgyfnerthu’r gofynion a osodwn ar gynlluniau personau cymwys i helpu i sicrhau mai dim ond eiddo addas sy'n cael eu hinswleiddio. Mae'r cynigion newydd yn cynnwys mwy o wyliadwriaeth gan weithredwyr y cynllun personau cymwys, fel y dywedais, o'u gosodwyr, i helpu i nodi arferion gwael a gwaith nad yw’n cydymffurfio, a bydd y rhain yn cael eu cyflwyno o 1 Hydref.
O ran eich ail bwynt, sy'n peri pryder mawr–ac rydych chi eisoes wedi tynnu ein sylw at hynny heddiw – o ran yr hyn a ddisgrifir fel triniaethau i’r wyneb nad ydynt yn cael eu rheoleiddio, yn dilyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf– y mis Gorffennaf hwn, 2017 - mae Llywodraeth Cymru bellach yn datblygu'r rheoliadau ar gyfer y system drwyddedu gweithdrefnau arbennig newydd, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ymgysylltu ag ystod eang o grwpiau ymarferwyr proffesiynol i roi’r cymorth, arweiniad a gweithdrefnau gorfodi priodol ar waith, i alluogi lefelau cydymffurfio uchel. Byddwn yn rhoi amser i awdurdodau lleol ymwreiddio’r gweithdrefnau arbennig newydd hyn o ran y system drwyddedu honno, cyn i ni ychwanegu rhai newydd, ond bydd angen ailasesu dros 2,000 o ymarferwyr a 900 o safleoedd yng Nghymru, o dan ofynion y system drwyddedu newydd.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am drafnidiaeth yn eistedd wrth fy ochr i heddiw, o ran pa mor hwyr yw’r gwasanaeth 17:19 o Gaerdydd i Faesteg, ac mae e’n dweud y bydd yn sicrhau na fydd hynny’n digwydd. Mae’n mynd i gwrdd ag Arriva yn ystod y mis nesaf, a bydd yn codi’r mater hwn gyda nhw, oherwydd bod boddhad cwsmeriaid yn bwysig i ni, yn enwedig o ran gwasanaethau cymudo ar yr adeg honno o'r dydd i'r rhai sy'n teithio o Gaerdydd tuag at y gorllewin.