Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 26 Medi 2017.
Yn dilyn y cwestiynau a ofynnwyd yn gynharach am effaith digwyddiadau mawr yng Nghymru, mae gennym ni dîm pêl-droed Cymru i ymfalchïo ynddo, mae gennym ni gefnogwyr pêl-droed Cymru i ymfalchïo ynddynt, ac mae gennym ni gymdeithas pêl-droed Cymru i ymfalchïo ynddi, ac iddyn nhw i gyd y mae’r diolch bod Cymru wedi cael cyfle i wneud cais i gynnal gemau Ewro 2020. Nawr, a allwn ni gael datganiad ar yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i geisio sicrhau bod Cymdeithas Pêl-droed Cymru ar y brig, os daw'r cyfle i gynnal gemau Ewro 2020?