Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 26 Medi 2017.
Rwy'n edrych ymlaen at weld y ddrama hon fy hun yn ddiweddarach yn yr wythnos. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi fynd i'r orsaf, ac yna byddwch chi’n cael eich tywys i’r man perfformio ar gyfer y ddrama. Rwy’n credu y byddem i gyd yn cydnabod bod National Theatre Wales, yn sefydliad pwysig iawn, iawn yr ydym yn ei gefnogi. Ond fe wnaethoch chi godi cwestiynau pwysig am gynnydd yr ardal fenter, ac, wrth gwrs, yng nghyd-destun y sefyllfa sy'n datblygu, gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno ymateb maes o law. Hefyd, i gydnabod y gwaith yr oeddech chi yn ei wneud, David Rees, o ran dwyn sylw at y materion hyn, a'r sesiwn briffio yn ddiweddarach heddiw i bawb o ran y cynnydd ynghylch Tata Steel.