Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 26 Medi 2017.
Roeddwn i’n meddwl tybed a allwn ni gael datganiad ar strategaeth a meini prawf caffael llywodraeth leol. Rwy'n gofyn hyn oherwydd bod cwmni dodrefn ym Mhort Talbot sydd wedi gwneud ceisiadau am gontractau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cysylltu â mi. Maen nhw wedi rhoi dodrefn mewn llawer iawn o ysgolion ledled Cymru, ond ni chawsant hyd yn oed y cyfle i gyflwyno cais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, oherwydd bod y cyngor yn dweud nad oedd ganddynt y profiad na'r meini prawf i allu gwneud hynny. Felly, aeth y contract hwnnw i gwmni yn Swydd Efrog. Cawsom dystiolaeth yn y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr wythnos diwethaf gan Mark Drakeford ynghylch buddion cymunedol, am geisio cadw contractau yng Nghymru lle bo modd, ac nid wyf yn hapus iawn o glywed, am gwmni yr wyf yn ystyried yn arbenigwyr, bod y gwaith hwnnw wedi mynd y tu allan i Gymru. Felly, a allwn ni gael datganiad newydd yn ymwneud â’r caffael cymunedol hwnnw? A oes gan awdurdodau lleol strwythur y gallan nhw ei ddilyn, neu a yw'n newid o un awdurdod lleol i’r llall, sydd yn amlwg, yn rhoi'r rhai sy'n cyflwyno cais mewn sefyllfa anodd iawn?