Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 26 Medi 2017.
Mewn ymateb i'r Aelod, gwn mai mater i gyngor Castell-nedd Port Talbot fydd hwn, ond, yn amlwg, gan weithio ar y cyd â’r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, gydag awdurdodau eraill yn aml iawn. Wrth gwrs, mae cod ymarfer newydd ar gyfer caffael moesegol yng Nghymru, ac mae buddion cymunedol yn bwysig iawn ac, mewn gwirionedd, yn sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i gadwyni cyflenwi lleol pryd bynnag y bo modd. Felly rwy'n siŵr bod hwn yn fater y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu ei egluro.