Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 26 Medi 2017.
Croesawaf y datganiad hwn; rwy'n credu ei bod yn hollbwysig bod Cymru yn mynd i'r afael â hyn ac yn gwneud popeth o fewn ei gallu i liniaru'r newid yn yr hinsawdd, oherwydd credaf fod yn rhaid inni dderbyn mai'r bobl dlotaf yn y byd sy'n dioddef o'r hyn y mae newid hinsawdd yn ei olygu i ni. Credaf fod gennym ddyletswydd absoliwt i wneud hyn, felly rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr iawn. Rwy’n croesawu'r targedau uchelgeisiol, rwy’n croesawu'r 70 y cant, ac rwyf hefyd yn croesawu—fel cymaint o bobl eraill—y mater o berchenogaeth leol. Gwyddom fod rhai gwledydd, yn enwedig yr Almaen, wedi cymryd cam ymlaen llawer mwy na ni, ac rwy'n credu ei fod yn dda iawn pe byddai ysgogiad o ran hyn.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod achos, neu gyfle, mewn gwirionedd, i gynnwys llywodraeth leol yn fwy mewn ynni adnewyddadwy? Rwyf wedi codi nifer o weithiau yn y Siambr hon ddatblygiad cynllun cored Radyr yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd. Mae hwnnw mewn gwirionedd wedi bod yn gweithredu ers blwyddyn yn awr. Mae wedi cynhyrchu digon o drydan i bweru 500 o gartrefi teuluol o faint cyffredin yn ystod y cyfnod hwnnw. Bu rhywfaint o amser segur hefyd pan oeddent yn cywiro'r fecaneg, felly rwy'n credu y bydd yn cynhyrchu hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol. Felly, a wnaiff hi ddweud pa ddyfodol y mae hi'n credu—neu pa gyfleoedd y gellid eu rhoi i lywodraeth leol i weithio a datblygu'r math hwn o gynllun? A’r pwynt arall yr oeddwn am ei wneud oedd fy mod yn credu y byddai'n gam da, mewn gwirionedd, i edrych eto ar gwmni cyflenwi ynni Cymru.