Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 26 Medi 2017.
Diolch i Julie Morgan am y cwestiynau hynny. Rydych chi'n hollol gywir am newid hinsawdd; mae'n amlwg bod gennym ymrwymiad hirdymor ynghylch newid hinsawdd. Dim ond gwlad fechan ydyn ni, ond rwy'n falch iawn o'r ymrwymiad yr ydym wedi'i roi ar y camau yr ydym yn eu cymryd ar newid hinsawdd. Soniasoch am yr Almaen, ac yn sicr, allan yn Marrakesh yn COP22, roedd siarad â rhai o'r rhanbarthau bach iawn am y gwaith gwych yr oeddent yn ei wneud o ran datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy yn anhygoel. Roedd rhai o'r targedau a osodwyd ganddynt—eto, fel ein rhai ni—yn uchelgeisiol iawn, ac roedd yn dda clywed sut yr oeddent yn cyflawni'r targedau hynny.
Yn sicr, rwy'n credu bod swyddogaeth i lywodraeth leol, a soniasoch am y prosiect yn eich etholaeth chi yng Ngogledd Caerdydd. Agorais gynllun dŵr sydd, unwaith eto, wedi'i wneud ar y cyd â'r gymuned, y datblygwr a hefyd â—chyngor Merthyr Tudful, rwy’n credu. Felly, yn sicr yn fy marn i mae gan lywodraeth leol swyddogaeth i'w chwarae.
Byddwch wedi clywed fy ateb yn gynharach i Simon Thomas nad ydym wedi cau'r drws yn glep arno; cymerais y cyngor yn dilyn y digwyddiadau a gynhaliwyd ym mis Mawrth, ac ar hyn o bryd nid wyf yn credu mai dyma'r amser iawn inni wneud hynny, ond yn sicr, gallwn edrych arno. Ac os oes modd ei gael yn rhan o'r ymgynghoriad, byddaf yn hapus iawn i wneud hynny.