Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 27 Medi 2017.
Roedd ein set gyntaf o argymhellion yn edrych ar yr heriau uniongyrchol i’r cylch cyllido presennol. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod Canghellor y Trysorlys yn hydref 2016 wedi gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau hyd at 2020, ac rydym ni fel pwyllgor yn ddiamwys yn ein cefnogaeth i hyn. Mae’r darlun yn llai sicr, fodd bynnag, o ran bygythiadau a berir gan newidiadau mewn arian cyfredol yn dilyn Brexit. Er ei bod hi’n galonogol clywed bod Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, wedi gallu lliniaru peth o’r risg a berir gan newidiadau mewn arian cyfredol, rydym yn credu ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y risgiau y mae hyn yn eu hachosi yn cael eu monitro’n gyson a’u hasesu, gan ein bod eisoes yn gwybod bod arian yn mynd i fyny ac i lawr yn eithaf rhwydd, ac ar hyn o bryd, mae i lawr.
Yn ystod ein hymchwiliad, edrychwyd ar yr achos dros bolisi rhanbarthol newydd ar ôl Brexit. Mae’r data sydd ar gael yn rhoi darlun sobreiddiol ac yn dangos i ni mai’r Deyrnas Unedig yw’r wlad fwyaf anghyfartal yn yr Undeb Ewropeaidd. Credwn fod yr achos dros bolisi rhanbarthol ar gyfer Cymru yn y dyfodol, gyda chyllid ar gael i ni ar sail angen gwrthrychol, yn ddiamwys. Un o’r nifer o feysydd yr oeddem i gyd yn cytuno yn ei gylch oedd na ddylai Cymru fod yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd nag y byddem wedi bod pe baem wedi aros yn yr UE. Fodd bynnag, y cwestiwn mawr yw: sut y mae cyflawni hynny? Nid yn unig y dylai’r rhai a oedd ar yr ochr ‘gadael’ yn ymgyrch y refferendwm gyflawni eu haddewid o arian newydd ar gyfer Cymru ar ôl i ni adael, mae’n rhaid i wleidyddion o bob ochr ac o bob gwlad yn y DU ddod at ei gilydd i gytuno ar fformiwla newydd yn seiliedig ar anghenion ar gyfer dyrannu cyllid at ddibenion polisi rhanbarthol. Rydym yn credu mai dyma’r ffordd orau o sicrhau chwarae teg, cydraddoldeb a thegwch rhwng rhannau cyfansoddol y DU.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei ymateb i ni, yn cyfeirio at y gwaith sy’n cael ei wneud tu ôl i’r llenni i bwyso ar Lywodraeth y DU am arian yn lle’r arian a gawn o’r UE wedi i ni adael. Efallai y gallai daflu goleuni ar sut y mae’r trafodaethau hynny’n mynd rhagddynt mewn gwirionedd pan fydd yn codi i siarad yn y ddadl hon.
Roedd argymhellion 7, 8, 9 a 10 i gyd yn edrych ar sut y gwerthuswn effeithiolrwydd profiad blaenorol er mwyn llywio’r dyfodol. Fel pwyllgor, roeddem yn teimlo ei bod yn hanfodol bwysig—ein bod yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i lunio polisi yn y dyfodol mewn ffyrdd sy’n sicrhau cymaint â phosibl o fanteision i bobl Cymru. Roeddem yn cydnabod ein bod, yn y tair cyfran a gawsom hyd yn hyn, wedi gweld lefelau gwahanol o lwyddiant. Mae hyn yn cynnwys edrych hefyd ar ystod ehangach o ddangosyddion na dangosyddion economaidd yn unig. Mae hefyd yn golygu y gallwn edrych ar draws y byd ar arferion gorau. Ac roedd hi’n galonogol gweld bod Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei ymateb ffurfiol i’n hadroddiad, yn barod i ystyried y cysyniad hwn ac yn agored i fabwysiadu dulliau arbrofol.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn cyfeirio drwy gydol ei gyflwyniad at y papur sydd ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru ar ddyfodol polisi rhanbarthol. Buaswn yn gofyn felly a all Ysgrifennydd y Cabinet roi syniad i ni o’r amserlenni ar gyfer cyhoeddi’r gwaith hwn, oherwydd roedd ei ymateb yn nodi ‘yn yr hydref’, a buaswn yn ddiolchgar am eglurhad pellach ar y pwynt penodol hwnnw.
Clywsom bryderon yn ystod yr ymchwiliad ynglŷn â chymhlethdod y tirlun ar gyfer darparu polisi rhanbarthol, ac mae argymhellion 11 a 12 yn ymwneud â hyn. Mae Brexit yn rhoi cyfle inni edrych eto ar y modelau darparu ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol. Yn ein barn ni, rhaid i’r tirlun presennol, a ddisgrifir fel ‘cyffordd sbageti o haenau’ gan un tyst, gael ei symleiddio ar ôl Brexit. Ac er ein bod yn cytuno, yn argymhelliad 13, fod Llywodraeth Cymru yn cadw goruchwyliaeth strategol ar y polisi hwn yn y dyfodol, mae’n hanfodol fod y polisi yn y dyfodol yn ymateb cymaint â phosibl i anghenion lleol. Dylai hyn gynnwys sicrhau bod ardaloedd gwledig, sydd heb eu cynnwys yn y bargeinion dinesig a gyflwynwyd yn ddiweddar, yn cael rôl yn y broses o lunio polisi yn y dyfodol.
O ran dulliau o weithredu yn y dyfodol, clywsom am bwysigrwydd cynhyrchiant ac arloesi. Mae perfformiad economi Cymru yn y maes hwn wedi bod yn wan yn gyson yn y gorffennol. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys drwy edrych ar y strategaeth gyffredinol ar gyfer arloesi, a thrwy wneud y gorau o gyfleoedd drwy bolisi caffael.
Roedd ein hail argymhelliad ar bymtheg, a’r un terfynol, yn un eang a nodai rai o’n meysydd blaenoriaeth ar gyfer y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys cymorth ar gyfer sgiliau a chyfalaf dynol—ac ailadroddwyd y term ‘cyfalaf dynol’ sawl gwaith drwy gydol tystiolaeth y tystion—buddsoddiad mewn seilwaith ac yn bwysig, ymgysylltiad â’r sector preifat lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Mae hynny’n rhywbeth y gwn ei fod yn symud ymlaen o fewn yr UE, ond mae angen gwneud yn siŵr ei fod yn mynd ymhellach. I’r perwyl hwnnw, dylai Llywodraeth Cymru ddyblu ei hymdrechion i chwalu’r rhwystrau i gydweithio rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Dirprwy Lywydd, cyn dod i ben, rwyf am ddweud ychydig mwy am yr ymdeimlad o siom a deimlem gyda’r dystiolaeth a gawsom gan rai o’r tystion yn ystod yr ymchwiliad. Ychydig iawn o uchelgais neu her adeiladol a glywsom gan rai, a llai o awydd byth efallai i fanteisio ar y cyfleoedd y gellid eu sicrhau drwy edrych eto ar bolisi rhanbarthol. Roeddem yn teimlo’n bendant iawn ein bod wedi clywed mai rhagor o’r un peth oedd y ffordd ymlaen. Ni all, ac ni ddylai pethau barhau yn yr un modd. Nid yw rhagor o’r un peth yn dderbyniol o ran y ffordd y symudwn ymlaen. Ac mewn wythnos pan oeddem yn nodi ugain mlynedd ers y refferendwm ar ddatganoli, yr wythnos diwethaf, dylem bwyso a mesur, edrych ymlaen at yr 20 mlynedd nesaf, gyda’n golygon yn gadarn ar gyfleoedd i ffurfio polisi datblygu rhanbarthol newydd sy’n canolbwyntio ar yr arloesi, y cydweithio ac yn anad dim, y rhagoriaeth y gall pob un o’r cyfleoedd hynny eu dwyn i economi Cymru.
Edrychaf ymlaen at drafod a chlywed cyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma, ond mae’n rhaid i’n ffocws fod ar symud Cymru ymlaen ar y pwynt y byddwn yn gadael yr UE.