Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 27 Medi 2017.
I raddau helaeth, mae polisi rhanbarthol y DU yn ystod y degawdau diwethaf wedi cael ei lunio a’i yrru gan yr Undeb Ewropeaidd, ac mae arian sylweddol wedi gweddnewid rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae dros 200,000 o bobl wedi elwa ar hyfforddiant, diolch i arian yr UE a bydd mwy na £2 biliwn wedi cael ei sianelu i ardaloedd tlawd rhwng 2014 a 2020. Ond y ffaith yw, fe ŵyr pawb ohonom fod problemau yn y cymunedau hyn yn annhebygol o gael eu goresgyn yn gyfan gwbl erbyn 2020 ac felly bydd angen parhau i roi cymorth sylweddol.
Y bore yma yn y Pwyllgor Cyllid, cawsom ar ddeall fod gwariant datblygu economaidd ar lefel llywodraeth leol wedi gostwng 66 y cant dros y chwe blynedd diwethaf, ac mae toriadau i gynllunio mewn awdurdodau lleol wedi golygu gostyngiad o 45 y cant. Mae’r ddau yn feysydd allweddol lle rydym yn gobeithio ac yn disgwyl i gyfoeth gael ei gynhyrchu ohonynt. Rydym yn gallu ysgwyddo’r toriadau hyn i raddau oherwydd bod gennym botiau cyllido amrywiol o’r UE, ond y tu hwnt i 2020 nid oes unrhyw sicrwydd o gwbl.
Nawr, awgrymodd Llywodraeth Cymru yn ei Phapur Gwyn y byddai’n hoffi gweld addasiad unwaith ac am byth i’r grant bloc i wneud iawn am golledion arian Ewropeaidd i Gymru. Er bod hyn, mewn egwyddor, yn rhywbeth y dylid ei ystyried, roeddem yn bryderus yn y pwyllgor, rwy’n meddwl, y gallai’r dull hwn o weithredu greu risgiau yn y tymor hwy a bod angen diogelu at y dyfodol unrhyw addasiadau i’r grant bloc a wnaed ar y pwynt hwn fel nad ydym ar ein colled yn y tymor hwy.
Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Mehefin, yn rhy hwyr i ni allu ystyried y cynigion a wnaed ym maniffesto’r Blaid Geidwadol ym mis Mai ar gyfer sefydlu cronfa ffyniant a rennir, ac roeddent yn awgrymu gwneud hynny ar gyfer y DU gyfan. Nodaf fod dull o’r fath yn cael ei wrthod yn ymateb y Gweinidog i’n hadroddiad. Ond os mai dyna yw bwriad Llywodraeth Dorïaidd y DU, byddai’n ddefnyddiol gwybod a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwrthod bod yn rhan o’r drafodaeth hon, ac os felly, mae yna berygl y bydd Cymru’n wynebu fait accompli na fyddwn wedi dylanwadu arno, neu a yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw drafodaethau ar y cynnig, pa un a yw’r syniad a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU yn seiliedig ar fformiwla wrthrychol ar sail anghenion, ac a yw hwn yn gynnig y bydd yn rhaid ei gymeradwyo a’i gytuno gan holl wledydd y DU, fel yr awgrymwyd gennym yn ein hadroddiad.
Os nad oes yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymeradwyo meini prawf y gronfa ffyniant a rennir, rwy’n credu y byddem yn pryderu efallai na châi’r meini prawf eu llunio mewn modd a fyddai o fudd i Gymru. Mae ein ffigurau diweithdra, er enghraifft, yn gymharol isel o gymharu â llawer o ranbarthau eraill yn y DU, ond mae ein cynnyrch domestig gros mewn rhai ardaloedd yn llusgo ar ôl yn sylweddol. Felly, i ba raddau y byddwch yn rhan o’r drafodaeth honno ar ffyniant a rennir?
Un o fanteision mawr y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yw eu bod yn caniatáu i Lywodraeth Cymru, awdurdodau cyhoeddus ac eraill sydd â diddordeb i gynllunio ar sail aml-flynyddol. Roedd y pwyllgor yn awyddus iawn i sicrhau y dylai hyn fod yn nodwedd hefyd o unrhyw fodel rhanbarthol o ddatblygiad economaidd yn y dyfodol. Rwy’n credu ei bod yn werth ailbwysleisio’r pwynt a wnaeth aelodau eraill o’r pwyllgor, gan gynnwys Steffan, am y ffaith ein bod yn eithaf siomedig mewn gwirionedd ynglŷn â’r diffyg dychymyg a chreadigrwydd, yr awydd am ragor o’r un peth, gan lawer o bobl sy’n elwa ar hyn o bryd o gronfeydd rhanbarthol Ewropeaidd. Rwy’n meddwl ein bod yn mynd i orfod meddwl yn radical iawn ac mewn ffordd newydd ynglŷn â sut y byddwn yn ymgysylltu â datblygiadau rhanbarthol yn y dyfodol.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at y ffaith ein bod wedi cael tystiolaeth gan lawer o dystion a oedd yn cytuno, er y dylai Llywodraeth Cymru fod â’i llaw ar y llyw mewn perthynas â pholisi rhanbarthol, ei bod hi’n hanfodol sefydlu strwythurau is-ranbarthol yng Nghymru. Y maes rwy’n pryderu’n benodol amdano yw’r angen i ddatblygu ardal ddatblygu economaidd wledig is-ranbarthol, na fydd yn cael ei rheoli o Gaerdydd, ond a fydd yn ymateb i anghenion unigryw cymunedau gwledig. Rwyf wrth fy modd i ddweud, unwaith eto, fod CLlLC wedi cadarnhau yn ei chyfarfod gwledig ddydd Gwener y byddant yn awr yn bwrw ymlaen i ddatblygu cynllun is-ranbarthol sy’n seiliedig ar le ar gyfer datblygu economaidd yn y Gymru wledig. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i’r argymhelliad penodol hwn yn yr adroddiad, ond rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymwneud yn weithredol â’r grwpio llywodraeth leol newydd hwn i gyflawni’r addewid a wnaeth yma i sicrhau bod blaenoriaethau gwledig yn cael digon o bwyslais wrth lunio polisi rhanbarthol.
Yn olaf hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gytuno i bob un o’r argymhellion yn yr adroddiad hwn; dyna’r math o ymgysylltiad y dymunwn ei weld. Ond bydd gennym ddiddordeb gweithredol a byddwn yn gwneud gwaith dilynol er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei haddewidion.