Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 27 Medi 2017.
Hoffwn ategu diolch y siaradwyr blaenorol i bawb a roddodd dystiolaeth, ac i gofnodi fy niolch i’r Cadeirydd hefyd am y ffordd y cynhaliodd yr ymchwiliad hwn yn benodol. Rwy’n credu bod yr holl Aelodau’n mynd i adleisio’r un pwynt—mai un o’r rhannau siomedig o’n hymchwiliad oedd gweld mai busnes fel arfer, bron, oedd gobaith y rhai y clywsom dystiolaeth ganddynt, yn hytrach na gobeithio y gallai’r sefyllfa anodd roeddem ynddi esgor ar syniadau gwahanol sy’n creu canlyniadau gwell i’n dinasyddion.
Ond rwy’n credu bod cael yr ymchwiliad hwn ar bolisi rhanbarthol, wrth gwrs, yn gwbl briodol i un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Un o’r addewidion canolog yn ystod ymgyrch y refferendwm oedd na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd, a chronfeydd strwythurol oedd un o’r meysydd a nodwyd gan yr ymgyrch ‘gadael’ dro ar ôl tro. Efallai na chafodd ei arddangos ar fws mawr coch, ond roedd yn addewid a ailadroddwyd i bobl y wlad hon. Wrth edrych ar y dystiolaeth a gawsom, roeddem i gyd, rwy’n meddwl, yn cytuno mai safbwynt Llywodraeth Cymru/Plaid Cymru yn y Papur Gwyn ar y cyd, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, oedd y cynsail cywir, h.y. y dylai’r Trysorlys ddarparu arian yn lle cyllid y byddai Cymru wedi bod yn iawn i’w ddisgwyl gan yr UE pe baem wedi parhau i fod yn aelod, ond y dylai Cynulliad Cymru a Llywodraeth Cymru gael ymreolaeth lawn i weithredu eu polisi rhanbarthol eu hunain. Rwy’n falch bod y Llywodraeth, yn ei hymateb, wedi cadarnhau’r safbwynt hwnnw.
Mae hyn yn wirioneddol bwysig o ran polisi rhanbarthol am amryw o resymau, oherwydd roedd hi’n amlwg pan oeddem yn cymryd tystiolaeth ar bolisi rhanbarthol o amrywiaeth o ffynonellau fod diffinio rhanbarthau yn golygu gwahanol bethau i bron bob un person a sefydliad y cawsom dystiolaeth ganddynt. Felly, cyfeiriai rhai at orllewin Cymru a’r Cymoedd a dwyrain Cymru, rhanbarthau’r UE, cyfeiriai rhai at y dinas-ranbarthau, eraill at leoliadau daearyddol amlwg y gallai’r rhan fwyaf o bobl uniaethu â hwy, fel gogledd Cymru neu’r Cymoedd, ac roedd eraill yn gweld Cymru ei hun fel y rhanbarth yng nghyd-destun ehangach polisi rhanbarthol y DU. Mae’r anghysondeb yn ddealladwy oherwydd nad ydym wedi cael eglurhad o sylwedd gan Lywodraeth Cymru eto ynglŷn â beth yn union y mae’n ei ystyried yw dyfodol Cymru o ran polisi rhanbarthol, er ein bod yn disgwyl papur yr hydref hwn i nodi rhai egwyddorion. Felly, rydym yn cefnogi’r egwyddor, yma ar feinciau Plaid Cymru, y dylai Cymru benderfynu, ond yr hyn sydd ei angen arnom yn awr gan Lywodraeth Cymru yw gweledigaeth ar gyfer polisi rhanbarthol sy’n mynd y tu hwnt i’r cyfnod pontio. Sut beth fydd polisi rhanbarthol? Beth fydd rhanbarthau Cymru? Beth fydd y mecanweithiau cyllido? Beth fydd y trothwyon ar gyfer cymhwyso? Beth fyddai’r cydbwysedd rhwng sgiliau a datblygu economaidd ar y naill law, a phrosiectau ac adfywio microgymunedol ar y llaw arall?
Fel lladmerydd ar ran cynllunio gofodol economaidd fy hun, buaswn yn erfyn ar Ysgrifennydd y Cabinet i feddwl yn ofalus iawn ynglŷn â ffiniau’r rhanbarthau hynny. Gwn fod ffiniau wedi bod ar ei feddwl ers peth amser ers iddo fabwysiadu ei bortffolio presennol, ond os yw rhanbarthau’r bargeinion dinesig yn ffurfio sail i bolisi rhanbarthol, mae gennyf ofn mawr y bydd canlyniadau i’r tlotaf yn ein cymunedau. Gallwch ddychmygu—ar hyn o bryd, mae Cymoedd Gwent yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, un o’r rhanbarthau tlotaf yn Ewrop gyfan, yn anffodus, ac yna, os oes gennym yn sydyn iawn brifddinas-ranbarth Caerdydd fel model ar gyfer polisi rhanbarthol newydd, heb ychwanegu un geiniog at werth yr economi neu gynnydd mewn cyflogau na dim, byddwn yn y rhanbarth mwyaf llewyrchus yng Nghymru. Rwy’n credu y bydd hynny’n cael effaith ganlyniadol. Yna, wrth gwrs, mae gennym gwestiynau dilys ynglŷn â rhannau o Gymru sydd heb eu cynnwys yn y dinas-ranbarthau o gwbl, yn enwedig cymunedau gwledig sy’n wynebu heriau gwirioneddol o ran goresgyn tlodi dwfn. Felly, mae angen cefnogaeth leol—roedd hynny’n glir yn y dystiolaeth a gawsom—ac rwy’n meddwl, yn rhannol, fod sicrhau cefnogaeth leol yn ymwneud â gallu pobl i uniaethu â’r rhanbarthau. Fe wnaf y pwynt eto, o ran sut yr ydym yn diffinio’r rhanbarthau hynny: cyhoeddodd y Llywodraeth ei chyhoeddiad ‘Ein Cymoedd, Ein Dyfodol’ yn yr haf, ac roeddwn yno’n aros yn eiddgar am y prif gynllun economaidd hwn a oedd yn mynd i newid ffawd Cymoedd de Cymru—tri chyfeiriad yn unig at yr Undeb Ewropeaidd neu Brexit, mewn ardal sydd yn bendant ymysg y rhai sy’n dibynnu fwyaf ar gyllid Ewropeaidd. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, nid yn unig yn ei bapur ar bolisi rhanbarthol yn y dyfodol, ond yn weithredol yng nghyfarfodydd y Cabinet o hyn ymlaen, i erfyn ar gyd-Aelodau ynglŷn â’r angen i baratoi pob adran a phob cymuned yn ein gwlad at Gymru ar ôl y cyfnod pontio, ac mae hynny’n golygu cael pob cymuned yn barod ar gyfer Brexit. Diolch yn fawr.