11. 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 27 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 4:35, 27 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma, ac rwy’n bwriadu canolbwyntio fy nghyfraniad ar yr hyn sydd angen ei wneud, yn fy marn i, i sicrhau ffyniant i’r holl bobl yn fy etholaeth.

Mae dogfen ‘Ffyniant i Bawb’ y Llywodraeth yn bwriadu targedu ymyriadau i anghenion economaidd gwahanol pob rhanbarth yng Nghymru, gan sicrhau bod pob rhan o’r wlad yn elwa o dwf, ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn anrhydeddu’r ymrwymiad hwnnw a dechrau buddsoddi o ddifrif yng ngorllewin Cymru, ardal yr ymddengys ei bod, hyd yn hyn, ar waelod rhestr flaenoriaeth Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae’n wych fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod yna heriau amlwg yn wynebu gwahanol rannau o Gymru, ond i bobl sy’n byw yn Sir Benfro, mae diffyg buddsoddi parhaus yn yr ardal yn dangos, er bod strategaethau a dogfennau’r Llywodraeth yn dweud un peth, fod polisïau’r Llywodraeth yn dweud rhywbeth arall. Rwy’n siŵr fod pob Aelod yn deall nad yw cael un dull sy’n addas i bawb o lywodraethu Cymru yn gweithio, a dyna pam y mae angen bellach i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth fanwl a chadarn sy’n egluro sut y caiff y Gymru wledig ei chefnogi drwy’r Cynulliad hwn.

Er enghraifft, nid yw adran ‘iach ac egnïol’ y ddogfen ‘Ffyniant i Bawb’ hyd yn oed yn cyfeirio at wasanaethau iechyd gwledig o gwbl. Y GIG yng Nghymru a’r modd y darparir gwasanaethau yw’r mater pwysicaf sy’n wynebu fy etholwyr o hyd, ac eto nid yw’r ddogfen hon hyd yn oed yn cydnabod na hyd yn oed yn ceisio tawelu meddwl pobl sy’n byw yn fy ardal i fod Llywodraeth Cymru yn gwrando.

Mae’r strategaeth yn sôn am bwysigrwydd triniaeth gyflym i bobl pan fo’i hangen arnynt, mor agos i’w cartrefi â phosibl, ac mae hynny’n rhywbeth y mae pobl Sir Benfro yn parhau i ymladd drosto. Fodd bynnag, mae parhau i ddileu gwasanaethau i deuluoedd yn Sir Benfro yn hollol groes i amcan Llywodraeth Cymru ei hun i ddarparu gwasanaethau mor agos i’w cartrefi â phosibl. Nid oes ond raid i chi edrych ar sefyllfa gwasanaethau pediatrig yng ngorllewin Cymru fel enghraifft o bobl yn gorfod teithio ymhellach i gael triniaeth.

Pan benderfynodd Llywodraeth Cymru gau’r uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg, gwneuthum y pwynt fod teithio o Dyddewi i Gaerfyrddin mewn sefyllfa o argyfwng yn debyg i bobl yng Nghaerdydd yn cael eu gorfodi i deithio i Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni i gael gofal brys. Nawr, wrth gwrs, ni fyddai hynny’n iawn i bobl Caerdydd, ac nid yw’n iawn i’r bobl rwy’n eu cynrychioli. Felly, os yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o ddifrif i ddarparu gofal mor agos i’w cartrefi â phosibl, yna mae’n bryd iddi ddechrau gwrthdroi’r tueddiad yng ngorllewin Cymru i ganoli gwasanaethau iechyd a dechrau buddsoddi’n briodol mewn gwasanaethau iechyd lleol.

Nid ar amcanion iechyd yn unig y mae’r ddogfen ‘Ffyniant i Bawb’ yn canolbwyntio. Mae hefyd yn ailadrodd rhai buddsoddiadau pwysig yn y seilwaith, gan gynnwys un ymrwymiad a fydd o fudd mawr i bobl a busnesau yn Sir Benfro. Rwy’n falch bod y ddogfen yn ymrwymo i welliannau i’r A40 yng ngorllewin Cymru, ac rwy’n siŵr nad oes angen i mi barhau i ailadrodd yr un llinellau i gefnogi’r gwelliannau hyn ar wahân i bwysleisio’r ffaith bod angen deuoli’r A40 yn awr er mwyn agor gorllewin Cymru i weddill y wlad a thu hwnt. Mae’r achos dros ddeuoli’r A40 wedi bod yn cael ei drafod ers y 1950au, ac felly mae’n hen bryd i’r prosiect ddechrau gwneud cynnydd. Gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn rhannu fy uchelgais i weld yr A40 wedi’i deuoli yn Sir Benfro, ac rwy’n sylweddoli na all hynny ddigwydd dros nos, ac y bydd yn galw am arian sylweddol, ond y cyfan rwy’n gofyn amdano yn awr yw ymrwymiad cadarn gan Lywodraeth Cymru ei bod yn rhannu fy nod i ddeuoli’r darn hwn o ffordd, ac efallai y bydd y Prif Weinidog yn ymrwymo i hyn wrth ymateb i’r ddadl benodol hon.

Rwy’n falch hefyd fod y ddogfen yn ymrwymo i gyflwyno band eang dibynadwy a chyflym i’r rhannau o Gymru nad ydynt yn cael eu gwasanaethu ar hyn o bryd gan y farchnad. Unwaith eto, mae Sir Benfro perthyn i’r categori hwnnw. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw mynediad at y rhyngrwyd, nid yn unig i fusnesau, ond i bawb. I lawer o bobl, mae’n rhan gynyddol bwysig o’u bywydau ac yn eu galluogi i fyw’n fwy annibynnol drwy sicrhau bod gwybodaeth, addysg a gwasanaethau da a dibynadwy yn hygyrch iddynt. Yn wir, mewn cymunedau gwledig fel Sir Benfro sydd eisoes wedi cael eu taro’n anghymesur yn sgil cau banciau, mae mynediad at fand eang dibynadwy yn hanfodol i lawer o bobl allu parhau i wneud defnydd o wasanaethau bancio. Fodd bynnag, y realiti i rai pobl sy’n byw yng Nghymru yw eu bod yn dal heb fynediad at wasanaeth band eang digonol ac o ganlyniad, ni allant fwynhau neu ddefnyddio’r mynediad at wasanaethau y mae pobl mewn ardaloedd eraill yn eu cael. Felly, unwaith eto rwy’n gofyn am wybodaeth fanylach ynglŷn â pha bryd y bydd Llywodraeth Cymru yn targedu mannau gwan yn benodol ar draws Sir Benfro, er mwyn i mi roi’r newyddion diweddaraf sy’n fawr ei angen i gymunedau lleol ynglŷn â pha bryd y gallant ddisgwyl gweld gwelliannau.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl briodol yn datgan bod llawer i ymfalchïo ynddo, ond mae llawer o heriau’n parhau, a dim ond drwy fod yn onest ynglŷn â’r rhain y gallwn fynd i’r afael â hwy. Mae’n bryd inni fod yn onest ynglŷn â’r diffyg buddsoddiad a sylw a roddir i orllewin Cymru gan Lywodraethau Llafur blaenorol a chydnabod bod yn rhaid gwneud mwy yn y dyfodol i helpu ein cymunedau gwledig. Gall y Gymru wledig fod yn gymaint mwy na’r hyn ydyw ar hyn o bryd. Mae angen cefnogaeth a buddsoddiad, ac mae angen i’r bobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig wybod eu bod yn cael eu hystyried gan bolisïau Llywodraeth Cymru. Felly, rwy’n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn dechrau gwella ei chefnogaeth i orllewin Cymru. O’r herwydd, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn.