Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 27 Medi 2017.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddom, datblygu economaidd yw asgwrn cefn goroesiad economïau gwledig. Roeddwn yn falch o weld y Prif Weinidog yn cadarnhau, yn ei ddatganiad ar y strategaeth genedlaethol yr wythnos diwethaf, y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried creu bargen dwf i ganolbarth Cymru er mwyn cefnogi economi’r rhanbarth. Felly, ar y sail honno, a gaf i ofyn pa gyllid cychwynnol rydych wedi ystyried ei roi ar waith i gynorthwyo’r gwaith cynnar y bydd ei angen er mwyn gwireddu bargen dwf i ganolbarth Cymru?