Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 27 Medi 2017.
Hyd yn hyn, Cadeirydd, mae’r arian sydd wedi bod yn angenrheidiol er mwyn datblygu’r syniad wedi cael ei gyfrannu gan y rhai a fu’n aelodau o’r bartneriaeth a sefydlwyd: aelodau o’r sector preifat, o weithgynhyrchu, amaethyddiaeth a thwristiaeth, ynghyd ag addysg uwch, addysg bellach, y sector gwirfoddol a llywodraeth leol. Daw Llywodraeth Cymru, ac yn wir, Llywodraeth y DU, yn rhan o’r peth, pe bai bargen dwf yn cael ei datblygu, pan ddaw’n bryd nodi syniadau penodol, set o ddibenion craidd, set o flaenoriaethau y cytunwyd arnynt, ac yna, byddwn yn ymrwymo i gynnal trafodaethau pwrpasol gyda Llywodraeth y DU, a chyda chynrychiolwyr lleol ynglŷn â’r cyfraniad ariannol y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fargen o’r fath.