Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 27 Medi 2017.
A gaf i yn gyntaf groesawu’r Ysgrifennydd Cabinet a’i fod e yma heddiw yn hytrach nag yn gwrando ar ei arweinydd yn Brighton? Mae’n siŵr y byddai’n well gyda fe fod ar lan y môr yn fanna, ond rydym ni’n falch iawn o’i weld e fan hyn. Os caf i ofyn yn benodol ar y cysyniad yma o ryw fath o fargen dwf ar gyfer y canolbarth? Hefyd, mae’n rhaid meddwl yn nhermau’r gorllewin i gyd, yn fy marn i, achos mae gyda ni beth sy’n digwydd yn y de, rydym ni’n gwybod am y dinas-ranbarthau, a rhywbeth penodol gan y Llywodraeth hon a Llywodraeth Llundain yn fanna. Yn y gogledd, mae yna gysyniad yn mynd ar draws y gogledd, ac, wrth gwrs, mae cysylltiadau dros y ffin i Loegr a gwahanol gytundebau dinasoedd yn fanna. Mae yna wacter yn y canol, a beth rwy’n chwilio amdano gan yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw yw rhyw fath o syniad ganddo fe o ble mae’r Llywodraeth hon yn sefyll o ran hynny? A ydych chi’n credu y dylid llanw’r gwacter yna gyda rhyw fath o fargen neu gytundeb twf ar gyfer yr ardaloedd? Rwy’n gwybod bod rhaid iddo fe gael ei dyfu o’r gwaelod i fyny, ond a ydych chi’n awyddus i weld hynny’n digwydd?