Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 27 Medi 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gan fod fy mam-gu ar ochr fy mam wedi’i geni ym Moncton, New Brunswick, hoffwn groesawu ein gwesteion nodedig yn yr oriel hefyd. Mae hynny’n golygu fy mod yn chwarter New Brunswickiad, mae’n debyg. [Torri ar draws.]
Rydym wedi gweld eisiau presenoldeb siriol y Gweinidog dysgu gydol oes yr wythnos hon, gan ei fod yng nghynhadledd y Blaid Lafur, lle y gwelais ei fod wedi dweud ddoe, yn sgil cyhoeddiad John McDonnell y bydd y Blaid Lafur yn dod â chontractau mentrau cyllid preifat i ben ac yn eu prynu yn ôl, nad oes mentrau cyllid preifat yng Nghymru. Ond wrth gwrs, rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi nad yw hynny’n hollol gywir. Mewn gwirionedd, mae cyfanswm gwerth cyfalaf y contractau mentrau cyllid preifat sy’n gysylltiedig â Llywodraeth Cymru yn £565 miliwn, gyda chyfanswm y taliadau unedol—y swm y byddant wedi’i gostio erbyn diwedd y cyfnod ad-dalu—bron yn chwe gwaith hynny, ar £3 biliwn. Onid yw’n gwneud synnwyr bellach i Lywodraeth Cymru ystyried y posibilrwydd o ailariannu hyn ar sail fwy costeffeithiol?