Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 27 Medi 2017.
Wel, Cadeirydd, yr hyn y cyfeiriai fy nghyd-Aelod, Alun Davies, ato yw’r ffaith nad ydym wedi cytuno i gytundebau mentrau cyllid preifat newydd yn ystod y cyfnod ers datganoli. Mae’r Aelod yn llygad ei le fod gennym 23 o gytundebau mentrau cyllid preifat hanesyddol a ddaw o’r cyfnod cyn datganoli, ond nid yw Llywodraeth Cymru ond yn uniongyrchol gyfrifol am ddau ohonynt. Yn wir, ceir enghreifftiau yng Nghymru eisoes lle y mae sefydliadau sy’n ymrwymo i gytundebau mentrau cyllid preifat wedi dod i’r casgliad y byddent yn newid i drefniadau eraill. Felly, nid oes gennym hanes diweddar y mae’n rhaid inni ei ddatod fel y mae’n rhaid ei ddatod mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, a lle y bo’n well gwneud trefniadau eraill, mae gennym hanes blaenorol o weld y trefniadau hynny’n newid hefyd.