Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 27 Medi 2017.
Mae’r Aelod yn llygad ei le wrth nodi, o’r 23 cynllun, y ddau sy’n gynlluniau uniongyrchol Llywodraeth Cymru, ac nid wyf yn anghytuno ag ef o ran egwyddor yr hyn a ddywedodd, fod angen cadw’r holl gynlluniau hyn dan adolygiad, er mwyn sicrhau, os oes modd aildrefnu pethau er budd trethdalwyr Cymru, ein bod bob amser yn agored i wneud hynny. Fel y dywedais, mae enghreifftiau o hynny’n digwydd eisoes yng Nghymru. Felly, mae’n amlwg nad ydym yn gwrthwynebu’r posibilrwydd o wneud hynny.