Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 27 Medi 2017.
Rwy’n llwyr gydnabod bod record Llywodraeth Cymru yn llawer gwell na record Llywodraeth y DU mewn perthynas â chontractau mentrau cyllid preifat. Yn wir, 1.7 y cant yn unig o gyfanswm y DU yw canran cyfanswm y taliadau unedol, yr ad-daliadau blynyddol, a fydd yn cael eu gwneud. Felly, mae hynny’n beth da iawn. Ond mae dyled sylweddol o hyd i’w had-dalu dros nifer o flynyddoedd, a bydd gostwng costau’r ad-daliadau hynny, o flwyddyn i flwyddyn, yn golygu bod mwy o arian i’w wario ar bethau da eraill y mae angen i’r sector cyhoeddus wario arnynt.
O’r prosiectau na thalwyd amdanynt ar hyn o bryd, mae’r A55 rhwng Llandygai a Chaergybi; roedd gwerth cyfalaf y prosiect hwnnw’n £100 miliwn. Ceir datblygiad Rhodfa Lloyd George a Sgwâr Callaghan yma yng Nghaerdydd; roedd gwerth cyfalaf gwreiddiol y prosiect hwnnw’n £45 miliwn. Dyna bron i draean o gyfanswm y prosiectau na thalwyd amdanynt o ran gwerth, ac am y £145 miliwn o gyfalaf a ddarparwyd ymlaen llaw, mae’r costau ad-dalu bron yn £800 miliwn. Mae honno’n fargen warthus a gorau po gyntaf y gallwn ddatod y contractau hyn.