Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 27 Medi 2017.
Mae gennyf gryn ddiddordeb yn y tir cyffredin newydd hwn sy’n ymddangos rhwng John McDonnell a Neil Hamilton; nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn byw i weld hynny, mewn gwirionedd. Ond Cadeirydd, a gaf fi balu ychydig yn ddyfnach? Roedd gennyf gryn ddiddordeb, a bûm yn gwrando’n astud ar yr hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd cyllid. Yn sgil cyhoeddiad canghellor yr wrthblaid ynglŷn â dod â’r prosiectau hyn yn ôl i’r sector cyhoeddus, ai polisi’r Blaid Lafur yng Nghymru bellach, ac felly polisi’r Llywodraeth hon, yw dod â’r prosiectau mentrau cyllid preifat presennol yng Nghymru yn ôl yn fewnol, ac felly ar fantolen Llywodraeth Cymru pe bai Llywodraeth Lafur yn cael ei hethol yn San Steffan?