<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 27 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:52, 27 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, Cadeirydd, rwyf am ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach gan ei bod yn bwysig inni gael cyd-destun hyn yn gywir. Mae graddau’r broblem sy’n ein hwynebu yng Nghymru yn wahanol tu hwnt i’r broblem a wynebir mewn mannau eraill, ac mae diweddarwch y cynlluniau mentrau cyllid preifat y byddai’n rhaid inni fynd i’r afael â hwy yn wahanol iawn hefyd. Dim ond 23 cynllun a fu yng Nghymru ac ychydig iawn o fentrau cyllid preifat newydd a fu yn y cyfnod ers datganoli, ac o’r 23 cynllun, nid yw Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gyfrifol am 21 ohonynt gan eu bod yn perthyn i awdurdodau lleol ac i’r gwasanaeth iechyd. Ond rydym yn hollol agored i adolygu’n barhaus a ellid gwella’r trefniadau hynny a sicrhau gwell bargen i’r trethdalwr ai peidio, a phan gawn y Llywodraeth Lafur nesaf, byddwn yn gallu gwneud hynny’n llawer gwell.