<p>Cyllid Llywodraeth Leol ar gyfer 2018-19</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 27 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:00, 27 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, clywais eich ateb i Jayne yn awr. Yn ychwanegol at hynny, dengys ffigurau Llywodraeth Cymru fod gwariant awdurdodau lleol ar weinyddu canolog yn cynyddu £11 miliwn eleni. Yn y cyfamser, ledled Cymru, bydd cyllidebau ar gyfer ffyrdd a llyfrgelloedd yn gostwng bron £6.73 miliwn. Mae costau gweithredu canolog yn cynyddu ac mae gwariant ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol yn gostwng. Pa ystyriaeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi i’r mater hwn pan fydd yn pennu setliad cyllid llywodraeth leol ar gyfer 2018-19, os gwelwch yn dda?