Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 27 Medi 2017.
Wel, Dirprwy Lywydd, yn fy nhrafodaethau gydag arweinwyr awdurdodau lleol ar draws y gwahanol bleidiau, credaf eu bod yn gweithio’n galed iawn i geisio sicrhau eu bod yn gallu darparu cymaint o’u cyllid â phosibl ar gyfer gwasanaethau rheng flaen a lleihau’r swm o arian sy’n mynd o’u hadnoddau i’w wario ar weinyddu. Yn y diwygiadau i lywodraeth leol a gyhoeddais ar lawr y Cynulliad hwn, fe fyddwch yn gwybod ein bod yn bwriadu ymdrechu’n galed gyda’n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol mewn perthynas â gwasanaethau ystafell gefn, cydwasanaethau, a cheisio sicrhau bod angen cyn lleied o arian â phosibl i gefnogi’r gwasanaethau’n ganolog, fel y gellir defnyddio’r arian hwnnw ar y rheng flaen. Credaf fod yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn agored iawn i gael y sgwrs honno, ac rwy’n bwriadu parhau i’w chael gyda hwy.