Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 27 Medi 2017.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Ar ddechrau proses y fargen ddinesig, cafwyd ar ddeall y byddai’r prosiectau sy’n rhan ohoni, sy’n defnyddio arian cyhoeddus ac arian y sector preifat, yn cael eu gwerthuso a’u cymeradwyo ar wahân. Daeth yn amlwg, mewn trafodaethau a gawsom—gyda David Rees, ac eraill yn y rhanbarth—fod y dull hwnnw o weithredu wedi newid ar ryw adeg o bosibl, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo gyda’i gilydd, fel petai, sy’n amlwg yn peri rhwystr i’r broses o gyflawni’r prosiectau hynny o ystyried y cymysgedd o gyllid sy’n cyfrannu at bob un o’r prosiectau hynny. A all Ysgrifennydd y Cabinet egluro safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hyn?