<p>Bargen Ddinesig Bae Abertawe</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 27 Medi 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:21, 27 Medi 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy’n deall pwynt Jeremy Miles. Pan gafodd y cytundeb ei lofnodi gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ynghyd â chydweithwyr lleol yn ardal dinas-ranbarth Bae Abertawe, credaf ei bod yn bwysig i mi ddweud mai ar sail 11 o brosiectau yn gweithio gyda’i gilydd i ffurfio cytundeb y gwnaed hynny. Nawr, rwyf wedi cael trafodaethau pellach gyda phobl yn lleol hefyd. Mae’n bwysig o hyd fod yr 11 prosiect yn datblygu fel pecyn cydlynol. Nid 11 o bethau ar wahân sy’n sefyll ar eu pennau eu hunain mohonynt. Mae’n rhaid iddynt uno gyda’i gilydd er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl. Ond rwy’n fwy na pharod i gadarnhau na fyddwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob achos busnes gael ei gymeradwyo cyn y caiff y cyllid ei ryddhau ar gyfer unrhyw un ohonynt.