2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 27 Medi 2017.
9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd Castell-nedd yn elwa oherwydd bargen ddinesig Bae Abertawe? (OAQ51068)
Nod bargen ddinesig £1.3 biliwn dinas-ranbarth Abertawe yw rhoi hwb o £1.8 biliwn i economi’r rhanbarth a chreu bron 10,000 o swyddi newydd. Mae dau o brosiectau’r fargen wedi eu lleoli yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Ar ddechrau proses y fargen ddinesig, cafwyd ar ddeall y byddai’r prosiectau sy’n rhan ohoni, sy’n defnyddio arian cyhoeddus ac arian y sector preifat, yn cael eu gwerthuso a’u cymeradwyo ar wahân. Daeth yn amlwg, mewn trafodaethau a gawsom—gyda David Rees, ac eraill yn y rhanbarth—fod y dull hwnnw o weithredu wedi newid ar ryw adeg o bosibl, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo gyda’i gilydd, fel petai, sy’n amlwg yn peri rhwystr i’r broses o gyflawni’r prosiectau hynny o ystyried y cymysgedd o gyllid sy’n cyfrannu at bob un o’r prosiectau hynny. A all Ysgrifennydd y Cabinet egluro safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hyn?
Wel, Dirprwy Lywydd, rwy’n deall pwynt Jeremy Miles. Pan gafodd y cytundeb ei lofnodi gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ynghyd â chydweithwyr lleol yn ardal dinas-ranbarth Bae Abertawe, credaf ei bod yn bwysig i mi ddweud mai ar sail 11 o brosiectau yn gweithio gyda’i gilydd i ffurfio cytundeb y gwnaed hynny. Nawr, rwyf wedi cael trafodaethau pellach gyda phobl yn lleol hefyd. Mae’n bwysig o hyd fod yr 11 prosiect yn datblygu fel pecyn cydlynol. Nid 11 o bethau ar wahân sy’n sefyll ar eu pennau eu hunain mohonynt. Mae’n rhaid iddynt uno gyda’i gilydd er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl. Ond rwy’n fwy na pharod i gadarnhau na fyddwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob achos busnes gael ei gymeradwyo cyn y caiff y cyllid ei ryddhau ar gyfer unrhyw un ohonynt.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.