Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 27 Medi 2017.
Mae’n rhaid i mi ddweud bod llawer o’r dadleuon hyn yn gyfarwydd iawn. Rwy’n credu bod y rhai ohonom sydd wedi gwasanaethu ers 1999 yn cael ein galw’n ‘garcharorion oes’ yn y Cynulliad—[Chwerthin.]—ac mae’n teimlo felly weithiau. Gwelaf fod dau garcharor oes arall yn y Siambr. Yn wir, etholwyd Dr Lloyd yn gyntaf yn 1999, ond oherwydd ei ymddygiad da, cafodd gyfnod byr o barôl, ond wrth gwrs rydym wrth ein bodd ei fod yn ôl yn treulio ei dymor. Y pwynt rwyf am ei wneud yw, pan drafodwyd hyn i gyd yn 2003, nid oedd gennym y pwerau. Trafodwyd y dadleuon ehangach ynghylch seilwaith a sut y byddem yn gallu rheoli’r math ehangach o amgylchedd inni allu gwneud penderfyniadau effeithiol. Pan oeddwn yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, roedd yna adroddiad yn tynnu sylw at rai o’r diffygion yn y gweithdrefnau a fabwysiadwyd, wyddoch chi, ac efallai’n difaru penderfyniad Llywodraeth Cymru ar y pryd i beidio â chymryd y pwerau hyn oherwydd eu bod yn credu eu bod yn cael bargen mor wael gan Lywodraeth y DU—a oedd ar y pryd, wrth gwrs, yn Llywodraeth Lafur. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod y pwyllgor yn cyfeirio at yr angen am gydweithio mwy effeithiol rhwng y gwahanol Lywodraethau, gan fod yna fater strategol yma, ac mae hi braidd yn ddigalon, 15 mlynedd yn ddiweddarach, fod pobl yn gwneud pwyntiau tebyg. Nid wyf yn mynegi pa mor ddilys ydynt, ond yn amlwg, mae llawer o bobl yn arddel y safbwyntiau hyn ac nid oes amheuaeth fod rhywfaint o sylwedd yn perthyn i rai ohonynt.
A gaf fi ddweud fy mod yn nodi’n arbennig, fel Aelod sy’n gwasanaethu’r Cymoedd, fod y risg o drosglwyddo perchnogaeth rheilffyrdd y Cymoedd i Lywodraeth Cymru yn peri pryder i mi, fel y mae’r sefyllfa braidd yn drist ynglŷn â chludo nwyddau yn y Cymoedd? Cafodd y rhan fwyaf o rwydweithiau’r Cymoedd eu datblygu ar gyfer cludo nwyddau mewn gwirionedd, a rhywbeth eilradd oedd cludo teithwyr arnynt. Felly, rwy’n credu y dylem fod yn ofalus iawn ynglŷn â cholli’r capasiti i gario nwyddau.
Rwy’n arbennig o falch o weld yr argymhellion sy’n ymwneud â rheilffyrdd gwyrddach, monitro effeithiol a phrisiau fforddiadwy, yn ogystal ag ailddatblygu gorsaf Caerdydd Canolog a’r cynlluniau a addawyd ers amser maith i drydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe. Buaswn yn dweud, fel Ceidwadwr Cymreig, y buaswn yn hoffi’n fawr pe bai’r ymrwymiad hwnnw wedi cael ei gadw, ac rydym yn hollol gywir i ddadlau y dylai gael ei adfer.
Rwy’n defnyddio trenau Arriva yn rheolaidd, ac rwy’n siarad o brofiad am ansawdd y gwasanaeth dros y cyfnod hwnnw, ond mewn gwirionedd daw’n ôl at y ffaith mai masnachfraint anniddorol braidd sy’n cael ei dyfarnu yn y lle cyntaf. Sylwais fod y Pwyllgor Materion Cymreig wedi edrych ar hyn ac wedi galw’r gwasanaeth braidd yn ‘hen ac yn gyfyng’ a dywedodd mai’r anallu i ragweld y cynnydd rhyfeddol yn nifer y teithwyr oedd wrth wraidd y methiant. Dylem ddathlu’r cynnydd yn nifer y teithwyr. I fod yn deg, nid wyf yn gwybod yn union pa mor weithgar y mae Trenau Arriva wedi bod yn hynny, ond, hynny yw, mae wedi digwydd, a dylai hynny fod yn rhywbeth rydym am fynd ag ef ymhellach mewn gwirionedd oherwydd mae’r ymadrodd sych hwnnw ‘newid moddol’ yn wirioneddol bwysig. Hyd yn oed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r broses hon wedi parhau gyda dros 0.25 miliwn o gymudwyr ychwanegol bellach yn defnyddio’r gwasanaeth yn ne Cymru, felly mae’r rheini’n bethau pwysig iawn.
Rwyf am wneud rhai pwyntiau mwy cyffredinol am gludo nwyddau, ar ôl cyfeirio yn gynharach at y Cymoedd. Nid wyf yn hollol siŵr fod y Llywodraeth yn gwybod i ble y mae’n mynd, oherwydd nododd y weinyddiaeth flaenorol dan Rhodri Morgan fod cludo nwyddau a’i dwf a’i ddatblygiad yn bethau pwysig iawn, felly rwy’n siomedig nad ydych ond yn derbyn argymhelliad 14 mewn egwyddor. Mae’n rhaid i mi ddweud, fel cyn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, nid wyf yn hoff iawn o Lywodraethau pan fyddant yn derbyn ‘mewn egwyddor’ oherwydd nid ydych yn gwybod beth y mae hynny’n ei olygu mewn gwirionedd, ydych chi, ar wahân i ryw fath o gefnogaeth lastwraidd nad yw’n mynd â chi’n bell iawn? Ond mae ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos bod y galw am gludo nwyddau wedi lleihau yn ddiweddar oherwydd cau gweithfeydd glo brig mewn rhai ardaloedd. Ond yn flaenorol, nododd y Llywodraeth y potensial ar gyfer cynyddu cludo nwyddau mewn meysydd fel cynwysyddion morol, ac rwy’n ofni efallai eu bod yn colli golwg ar hynny yn awr.
Mae’r adroddiad yn dweud bod bwriadau’r Llywodraeth ar raddfa arwrol ac nid wyf yn credu y dylem eu beirniadu am hynny, ond mae angen i ni sicrhau bod y monitro a’r craffu yn effeithiol, fel bod rhai o’r dyheadau hyn yn cael eu gwireddu. Ond rwy’n llongyfarch fy nghyd-Aelod Russell George ac aelodau ei bwyllgor ar waith da drwyddo draw. Rwy’n credu y bydd yr adroddiad hwn yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i fonitro perfformiad y Llywodraeth yn y dyfodol.