Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 27 Medi 2017.
Nid wyf yn siŵr ar ba lefel o fanylder y gallodd Dai Lloyd ddarllen adroddiad y pwyllgor, ond rwy’n awgrymu y gallai fod yn werth ei ail-ddarllen, gan ei fod yn dangos cydbwysedd llawer tecach o’r materion nag y llwyddodd i’w cyfleu yn ei araith.
Mae’r fasnachfraint reilffyrdd yn enghraifft o’r modd y mae datganoli rheilffyrdd yn dioddef trawsnewid poenus: masnachfraint lle y mae’r pwerau’n cael eu cadw yn San Steffan, ond yn cael eu harfer gan Weinidogion Cymru, lle y mae Llywodraeth Cymru wedi arllwys miliynau o’i hadnoddau ei hun i lenwi bylchau yn y cyllid ar gyfer masnachfraint nad yw wedi cael ei datganoli hyd yn oed, a lle y mae cerbydau’n cwympo’n ddarnau am nad oes gan Lywodraeth Cymru bŵer, ac am nad oes gan Lywodraeth y DU awydd, i archebu cerbydau gwell mewn modd amserol.
Rydym yn agosáu at sefyllfa yn awr lle y mae’r fasnachfraint yn cael ei gosod er gwaethaf, nid oherwydd, Llywodraeth y DU, yn fy marn i. Roedd hyn ar ei gliriaf yn nhystiolaeth yr Adran Drafnidiaeth i’r pwyllgor, ac roedd yn awgrymu i mi fod Llywodraeth y DU wedi troi ei chefn ar y cyfrifoldeb dros y fasnachfraint, tra’i bod, ar yr un pryd, yn llusgo’i sodlau ar ddatganoli’r pwerau i Lywodraeth Cymru. Dyna’n hollol yw gwrthwyneb llywodraethu da a gweinyddiaeth dryloyw. Ac felly mae’r fasnachfraint reilffyrdd mewn perygl o gael ei dal yng nghylch cyntaf uffern Dante, y soniodd y Prif Weinidog amdano yng nghynhadledd y Blaid Lafur, sef limbo.
Dylai pwerau fod wedi cael eu datganoli ym mis Ionawr eleni. Rydym yn awr yn gobeithio y byddant yn cael eu datganoli erbyn diwedd y flwyddyn hon, ond fel y clywsom yn y pwyllgor y bore yma, efallai na fydd hynny’n wir erbyn i’r fasnachfraint gael ei gosod hyd yn oed. Y cyfan roedd swyddogion yr Adran Drafnidiaeth yn gallu ei ddweud, pan ddaethant gerbron y pwyllgor, oedd y gellid cyflwyno’r fasnachfraint mewn pryd gyda’r gwynt yn deg. Ond ymhell o fod yn wynt teg, rydym wedi gweld cymylau storm yn casglu dros fisoedd yr haf, wrth i ddatganoli pwerau gael ei gysylltu ag anghydfod ariannol arall eto fyth, y tro hwn dros daliadau mynediad i’r trac, a allai gael effaith andwyol, o hyd at £1 biliwn, ar Lywodraeth Cymru. Fel y mae Hefin David wedi’i grybwyll eisoes, cadarnhaodd y cytundeb yn 2014 rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru na fuasai’r grant bloc yn cael ei dorri, sef, i bob pwrpas, yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn awr yn ei gynllunio. Gan ein bod yng nghanol Brexit, rydym wedi arfer clywed dro ar ôl tro mai Llywodraeth yw hon yn y DU sy’n cyflawni ei rhwymedigaethau i’r Undeb Ewropeaidd. Wel, mae’n bryd yn awr iddi gyflawni ei rhwymedigaethau i Gymru.
Fel y mae’r adroddiad yn ei nodi, rydym eisoes wedi gweld y marc cwestiwn uwchben ymrwymiad Llywodraeth y DU i roi £125 miliwn i drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a gwyddom beth sydd wedi digwydd mewn perthynas â’r addewid o drydaneiddio i’r gorllewin o Gaerdydd. Cymhlethir y sefyllfa hon gan y cyfyngiad parhaus a achoswyd gan y methiant i ddiddymu Deddf Rheilffyrdd 1993 yng Nghymru, sydd, mewn gwirionedd, yn cyfyngu ar faint uchelgais Llywodraeth Cymru i gyflwyno gweithrediad gwirioneddol ddielw ar draws pob agwedd ar y fasnachfraint yng Nghymru. Cafodd hyn ei hepgor gan Senedd y DU mewn perthynas â’r Alban; dylai fod wedi ei hepgor, ac mae angen ei hepgor, mewn perthynas â Chymru yn ogystal. Rwy’n cytuno â Llywodraeth Cymru, â’n hundebau rheilffyrdd, y Blaid Gydweithredol ac eraill yn y Siambr hon ein bod angen ateb gwirioneddol ddielw ar draws pob agwedd ar y fasnachfraint. Hoffwn glywed gan Lywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu parhau i bwyso am ddiddymu’r ddarpariaeth honno yn y Ddeddf Rheilffyrdd a beth y bydd yn ei wneud yn ystod oes y fasnachfraint hon os yw’n llwyddo i gyflawni’r nod hwnnw. Hefyd hoffwn annog mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol i ymgysylltu â chaffael yr ystod o wasanaethau ategol y bydd angen iddynt fod ar waith ar ôl gosod y fasnachfraint.
Mae pawb ohonom yn edrych ymlaen at fasnachfraint well sy’n canolbwyntio mwy ar y teithiwr dros y 15 mlynedd nesaf yn hytrach na’r hyn a welsom yn y fasnachfraint bresennol, ac rydym am weld y metro’n dwyn ffrwyth yn gyflym. Rydym yn ei alw’n ‘metro de Cymru’, ond gadewch i ni beidio â gwneud y camgymeriad o gredu ei fod yn datrys anghenion trafnidiaeth de Cymru i gyd. Mewn gwirionedd, metro de-ddwyrain Cymru ydyw. Nid yw’n llai pwysig oherwydd hynny, ond y wobr go iawn yma yw gweld hwn fel dechrau gwasanaeth trên a bws integredig sy’n galluogi ein dinasyddion i deithio o Drefynwy yn y dwyrain i Hirwaun, i lawr drwy ardal hardd Cwm Nedd i’r brif orsaf yng Nghastell-nedd, ac ymlaen i ranbarth trafnidiaeth integredig bae Abertawe i’r gorllewin i’r Mwmbwls, Llanelli, a thu hwnt.