<p>Polisïau Creu Cyfoeth</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 2:09, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog, ond o fesur nid yn unig creu cyfoeth, ond hefyd iechyd, addysg, darpariaeth tai ac ati, a yw Ron Davies, cyn Ysgrifennydd Cymru Llafur, yn iawn pan ei fod yn dweud, ar ôl 20 mlynedd o Gynulliad Cenedlaethol dan reolaeth Llafur, bod Cymru bellach yn dlotach nag yr oedd 20 mlynedd yn ôl? Aeth cyn-seren y blaid Lafur hwn ymlaen i ddweud nad yw'n gallu enwi unrhyw fenter sydd wedi gwella bywydau pobl Cymru. Does bosib, Prif Weinidog, bod yn rhaid i chi gytuno bod hwn yn ddadansoddiad yr un mor ddamniol o bolisïau Llafur ers datganoli ag unrhyw un a fynegwyd yn y Siambr hon.